Our first Small Grant was awarded to Forget-me-not Chorus, which brings joy into the lives of those living with and those affected by dementia through the power of song.

They have partnered up with Venue Cymru to run their first chorus in North Wales, meeting weekly in Rhos-on-Sea, Colwyn Bay.

The free-to-attend sessions are invaluable not only to the members who are living with dementia, but also to their families who attend as well.

One family member said: “The Forget-me-not Chorus has meant quality family time. It’s been somewhere that we can take my Dad. He loves singing; he’s loved singing all his life. We take him as a family – my mother, my sister, we’ve taken my aunt, my uncle, my sister’s best friend. We’ve all been along with my Dad, and we have some real quality family time together singing.

“It’s helped to lift my Dad and raise his spirits, which lasts a week. It lasts from one session of singing right through to the next. He sings all the time, and he’s always getting ready for choir. It’s really made a huge difference to him, and also to us as a family.”

-------

Dyfarnwyd ein Grant Bach cyntaf i’r Côr Forget-me-not, sy’n dod â chymaint o lawenydd i fywydau pobl sy’n byw gyda, ac yn cael eu heffeithio gan, ddementia, drwy rym caneuon.

Maent wedi ymuno gyda Venue Cymru i gynnal eu côr cyntaf yng Ngogledd Cymru, gan gwrdd yn wythnosol yn Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn.

Mae’r sesiynau, sydd am ddim, yn werthfawr nid yn unig i’r aelodau sy’n byw gyda dementia, ond i’w teuluoedd sy’n dod hefyd.

Dywedodd un aelod teulu: “Mae’r Côr Forget-me-not wedi golygu amser gwerthfawr i dreulio gyda’r teulu. Bu’n rhywle lle gallwn gymryd fy Nhad. Mae o wrth ei fodd yn canu; mae wedi bod yn canu drwy gydol ei fywyd. Rydym yn mynd ag o fel teulu cyfan – fy mam, fy chwaer, rydym wedi cymryd fy modryb, a ffrind gorau fy chwaer. Rydym i gyd wedi bod gyda fy nhad, ac rydym wedi cael amser gwerthfawr fel teulu yn canu.

“Mae hyn wedi helpu codi calon fy Nhad, ac mae ei hwyliau’n para wythnos gyfan. Mae’n para o un sesiwn o ganu tan y nesaf. Mae’n canu drwy’r adeg, ac mae bob tro’n paratoi ar gyfer y côr. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddo, ac i ni fel teulu hefyd."

Booking for this event has now closed.