We successfully applied for funding from Gwynt Y Mor Community Fund towards the creation of Cornel Celf / Arts Hub at Conwy Culture Centre in Conwy,  which will support an ongoing programme of community wellbeing and education projects, internships, artsist’ residencies and training courses ranging from visual art to drama, literature and music.

Working closely with partners such as Venue Cymru and the Royal Cambrian Academy we will draw upon the unique heritage collections on site to create, in Cornel Celf, a multi-disciplinary base for promoting excellence in the arts for Conwy.

This project presents a tremendous opportunity for the Conwy Arts Trust to create a bespoke arts education space within the co-located Conwy Culture Centre. This will be a multi-faceted cultural learning space giving artists, schools and community groups access to a range of resources including cultural heritage interpretation, flexible IT facilities, digital interpretation, oral history, film footage, library collections and staff expertise all within a relaxed and socially supportive environment. In particular, co-location with the youth service will enable us to work closely with young people on site, using the arts as an entry point for further training, education and employment, recognising and cultivating new talent.

-------------------

Gwnaethom gais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr tuag at greu Cornel Gelf yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yng Nghonwy, a fydd yn cefnogi rhaglen barhaus o brosiectau lles ac addysgol, interniaethau, artistiaid preswyl a chyrsiau hyfforddi yn amrywio o gelf weledol i ddrama, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Drwy gydweithio'n agos â phartneriaid fel Venue Cymru a’r Academi Frenhinol Gymreig byddwn yn manteisio ar y casgliadau treftadaeth unigryw sydd ganddynt er mwyn creu, yn y Gornel Celf, llwyfan amlddisgyblaethol ar gyfer hyrwyddo rhagoriaeth yn y celfyddydau yng Nghonwy.

Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy greu lle pwrpasol ar gyfer addysgu’r celfyddydau, a hynny hefyd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Bydd Cornel Celf yn cynnig pob math o ffyrdd o ddysgu am y celfyddydau, ac yn galluogi artistiaid, ysgolion a grwpiau cymunedol i fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys dehongliadau o dreftadaeth ddiwylliannol, cyfleusterau TG hyblyg, dehongliadau digidol, hanes llafar, deunydd ffilm, casgliadau llyfrgell a staff arbenigol, oll dan yr un to mewn awyrgylch hamddenol, gymdeithasol a chefnogol. Bydd bod yn yr un adeilad â'r gwasanaeth ieuenctid yn arbennig yn ein galluogi i gydweithio'n agos â phobl ifanc, gan ddefnyddio'r celfyddydau'n sbardun ar gyfer mwy o hyfforddiant, addysg a gwaith, gan gydnabod talent newydd a'i feithrin.

Booking for this event has now closed.