Rholio i lawr i'r Gymraeg

Conwy Arts Trust Awards

Bursting with ideas and creative energy? Planning a new arts project or event which will benefit the community of Conwy? If so you may be eligible for a Conwy Arts Trust award of up to £1,000 to help with the costs.

  

You can apply for an award if:

  • You are a non-profit making, properly constituted organisation
  • You are planning a new arts project/ event in Conwy County Borough
  • Your project / event will be completed within 12 months of the award being granted
  • Your project/ event will benefit the residents of Conwy County Borough.

You can use this award for:

  • Artists' fees
  • Publicity and marketing
  • Venue hire
  • Materials and equipment
  • Workshops

The award cannot be used towards:

  • The running costs of your organisation (core funding)
  • Projects / events that have already started
  • We will not generally fund projects within schools but may make an exception if the schools element is part of a wider project
  • Events which are held on an annual basis unless there is a new discrete element or where you can give clear indication that our funding would help with the long term sustainability of the event or project

Please note that grant applications must be received at least 2 months before the activity / project / event takes place.

Priority will be given to:

  •  Projects which aim to improve the health and wellbeing of Conwy’s communities
  • Innovative arts projects presenting high quality arts for the benefit of the community in Conwy County Borough
  • Projects which give the community an opportunity to have practical experience of art and interaction with artists

All applications are scored according to strict criteria. Your application MUST demonstrate how it meets these criteria:

Assessment Criteria:

  • Artistic Standard: information about participating artists and details of their previous experience.
  • Benefit to the community of Conwy County Borough: who is this project aimed at e.g. local people, artists etc; how many users will be from Conwy County Borough; will the community gain experience of a new art form?
  • Marketing: how will the project be marketed?
  • Accessibility: is the venue suitable for users with disabilities; is the event bilingual; how will you target your audience/participants, is the project aimed at a specific group or open to all?
  • Partnership Funding: are you contributing from your own and/or other funders?

How much you can apply for:

You can apply for a maximum award of £1,000.

However, it is important to note that funds are extremely limited and applications for lower amounts and where the award represents a small percentage of the overall costs are more likely to succeed. We will look favourably at projects which have already secured match-funding.

What we expect in return:

  • Acknowledgement on all publicity material and press releases
  • An evaluation form including details such as numbers and participants or audience, within six months of completion of the project
  • An invitation to the project/event

Other requirements:

  • A constitution or set of rules
  • Copy of your most recent signed accounts
  • Letters of support for your project / event
  • A written quote or estimate from any supplier of service

How to apply?

Click on this link, then click send to get the application form:

Conwy Arts Trust Grant

You must complete the Conwy Arts Trust grant application form and return to:

Conwy Arts Trust (Grants)
C/o Venue Cymru
Promenade
Llandudno  
LL30-1BB

 

The Arts development grant scheme is open to application at any time, subject to available funds.

Decisions will be made at the next Board Meeting.

It is strongly recommended that you discuss your application before applying

Tel: 01492 575572 or e-mail [email protected]

 

Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy

Ydych chi’n fwrlwm o syniadau a chreadigrwydd? Ydych chi’n cynllunio prosiect neu ddigwyddiad celf newydd fydd yn rhoi budd i gymuned Conwy? Os felly, efallai bod modd i chi dderbyn Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy, sef hyd at £1000 tuag at eich costau.

  

Gallwch wneud cais am yr arian os:

  • Ydych chi’n sefydliad nid-er-elw gyda chyfansoddiad
  • Ydych chi’n cynllunio prosiect/digwyddiad celf newydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy
  • Ydi’ch prosiect/digwyddiad yn cael ei gynnal o fewn 12 mis i dderbyn yr arian
  • Ydi’ch prosiect/digwyddiad yn rhoi budd i drigolion Bwrdeistref Sirol Conwy

Gallwch ddefnyddio’r arian ar gyfer:

  • Ffioedd artistiaid
  • Cyhoeddusrwydd a marchnata
  • Llogi lleoliad
  • Deunyddiau ac offer
  • Gweithdai

Nid oes modd defnyddio’r arian ar gyfer:

  • Costau rhedeg eich sefydliad (cyllid craidd)
  • Prosiectau/digwyddiadau sydd eisoes ar waith
  • Ni fyddwn fel rheol yn ariannu prosiectau mewn ysgolion ond mae’n bosibl y byddwn yn gwneud eithriad os ydi’r elfen ysgol yn rhan o brosiect ehangach
  • Digwyddiadau a gynhelir yn flynyddol oni bai bod elfen ar wahân newydd neu’ch bod chi’n gallu dangos yn glir y bydd yr arian yn helpu gyda chynaliadwyedd hirdymor y digwyddiad/prosiect

Nodwch ein bod angen derbyn ceisiadau grant o leiaf 2 fis cyn y cynhelir y  gweithgaredd / prosiect / digwyddiad.

Byddwn yn blaenoriaethu:

  • Prosiectau sy’n ceisio gwella iechyd a lles cymunedau Conwy
  • Prosiectau celf arloesol sy’n cyflwyno celf o ansawdd uchel er budd cymunedau Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Prosiectau sy’n rhoi cyfle i’r gymuned gael profiad ymarferol o gelf a rhyngweithio gydag artistiaid

Caiff yr holl ymgeiswyr eu sgorio yn erbyn meini prawf penodol. MAE’N RHAID i’ch cais ddangos sut mae’ch digwyddiad/prosiect yn bodloni’r meini prawf hyn:

Meini Prawf Asesu: 

  • Safon Artistig: gwybodaeth am yr artistiaid sy’n cymryd rhan a manylion am eu profiadau blaenorol.
  • Budd i gymuned Bwrdeistref Sirol Conwy: ar gyfer pwy mae’r prosiect e.e. pobl leol, artistiaid ac ati; faint o’r cyfranogwyr fydd yn dod o Fwrdeistref Sirol Conwy; a fydd y gymuned yn profi ffurf newydd ar gelfyddyd?
  • Marchnata: am ba hyd y bydd y prosiect yn cael ei farchnata?
  • Hygyrchedd: ydi’r lleoliad yn addas i bobl anabl; ydi’r digwyddiad yn ddwyieithog; sut y byddwch chi’n targedu’ch cynulleidfa/cyfranogwyr, ydi’r prosiect ar gyfer grŵp penodol neu ydi o’n agored i bawb?
  • Cyllid Partneriaeth: ydych chi’n cyfrannu at y prosiect o’ch cronfeydd eich hun/cronfeydd eraill?

Faint allwch chi ymgeisio amdano?

Gallwch wneud cais am hyd at £1000.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n cofio bod cyllid yn brin a bod ceisiadau am lai o arian a’r dyfarniad yn cynrychioli canran fechan o’r costau cyffredinol yn fwy tebygol o lwyddo. Byddwn yn edrych yn ffafriol ar brosiectau sydd eisoes wedi diogelu cyllid cyfatebol.

Beth fyddwn ni’n ei ddisgwyl yn gyfnewid:

  • Cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a datganiadau i’r wasg
  • Ffurflen werthuso gyda manylion fel niferoedd a chyfranogwyr/cynulleidfa, o fewn chwe mis i gwblhau’r prosiect
  • Gwahoddiad i’r prosiect/digwyddiad

Gofynion eraill:

  • Cyfansoddiad neu gyfres o reolau
  • Copi o’ch cyfrifon diweddaraf, wedi’u llofnodi
  • Llythyrau o gefnogaeth i’ch prosiect/digwyddiad
  • Dyfynbris gan unrhyw gyflenwr nwyddau/gwasanaeth  

Sut i wneud cais?

 Cliciwch ar y ddolen hon, ac yna cliciwch anfon i gael y ffurflen gais:

 Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy Grantiau Datblygu Celfyddydau – Ffurflen Gais .docx

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais Grant Ymddiriedolaeth Celf Conwy a’i dychwelyd i:

Ymddiriedolaeth Celf Conwy (Grantiau)

D/o Venue Cymru
Promenâd
Llandudno  
LL30 1BB

Mae modd gwneud cais am grant datblygu celf ar unrhyw adeg, ond mae’r dyfarniad yn amodol ar gyllid.

Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd.

Argymhellir yn gryf eich bod chi’n trafod eich cais cyn ymgeisio.

Ffôn: 01492 575572 

E-bost: [email protected]