Amdanom Ni
Mae Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn hyrwyddo, ategu a gwella addysg a gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r celfyddydau drwy annog a threfnu gweithgareddau diwylliannol, fel gweithdai addysgiadol a phrosiectau estyn allan. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2013 ac mae wedi cyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau celfyddydol ers hynny.
Rydym yn cefnogi a chynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys prosiect blaenllaw Creu, ar gyfer pobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl a grwpiau creadigol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar ystod eang o arferion artistig, o’r gair llafar i gelf graffiti a dawnsio fertigol.
Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithio’n agos â sefydliadau partner sy’n cefnogi digwyddiadau celfyddydol ar draws y sir, o ddigwyddiad Cymerwch Ran yn Venue Cymru, sy’n denu 10,000 o bobl dros un penwythnos anhygoel i ddigwyddiadau RSPB Conwy, sy’n defnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo gwybodaeth ynghylch natur.
Rhys Meirion, Noddwr
Mae'r Cymro o denor Rhys Meirion eisioes wedi profi llwyddiant rhyngwladol ym maes opera
a recordio, a llwyddiant darlledu yng Nghymru.
https://www.rhysmeirion.com/​​
Y Bwrdd
Cadeirydd - Dilwyn Price
​Treuliais fy ngyrfa ym maes addysg, fel athro, pennaeth a swyddog addysg ond rwyf bellach wedi ymddeol ac yn mwynhau fy ymddeoliad a threulio amser gyda’n wyrion. Rwyf wedi mwynhau’r celfyddydau perfformio erioed ac wedi annog fy nheulu a fy nisgyblion i gymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael a chymryd rhan. Rwyf hefyd yn arwain Côr Alaw, sef côr cymysg, yn chwarae’r organ yn ein capel lleol ac yn parhau i gefnogi Urdd Gobaith Cymru.
​
Trysorydd - Don Milne
​Yn dilyn fy ymddeoliad o fy swydd fel Pennaeth Cyfrifiadura mewn Prifysgol rwyf bellach yn un o Gynghorwyr Cyngor Conwy.
Ar ddechrau fy ngyrfa, treuliais amser yn darlithio yng Ngholeg Llandrillo, Gogledd Cymru. Ymunais â chymdeithasau drama lleol a chael profiad o berfformio a chynhyrchu. Diolch i’r profiad hwn, fe ddysgais am yr holl fanteision sydd gan y celfyddydau i’w cynnig, nid yn unig i bobl ifanc ond i gymdeithas yn gyffredinol.
Rwyf yn falch iawn o gael bod yn rhan o Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a chael cyfle i hybu’r celfyddydau yng Nghonwy.
Joann Rae
​Mae Joann wedi gweithio yn y celfyddydau mynegiannol am 20 mlynedd a chyn hynny roedd hi’n newyddiadurwraig.
Mae hi’n angerddol dros theatr a ffilm ac am nifer o flynyddoedd, mae hi wedi gweithio gydag ysgrifenwyr ifanc fel hwylusydd y grŵp Adolygwyr Ifanc Pobl Ifanc Creadigol.
​
Helen Goddard
​Mae gan Helen 20 mlynedd o brofiad o arwain prosiectau diwylliannol ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae Helen yn archeolegydd cymwys a Gweithiwr Amgueddfeydd Proffesiynol, a chafodd secondiad yn ddiweddar i Amgueddfa Cymru o’i rôl fel Pennaeth Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn ei rôl gyda’r Cyngor, bu’n rheolwr prosiect ar gyfer prosiect Canolfan Ddiwylliant Conwy, gwerth £4 miliwn, a bu’n arwain ar ddatblygu a gweithredu Strategaeth Ddiwylliant Conwy ar draws y Sir, yn ogystal ag arwain prosiectau diwylliant a lles ar draws y sefydliad.​
​
Is-gadeirydd-Michael Tree ​
Mae Michael yn Gyfreithiwr a Chyfarwyddwr cwmni Swayne Johnson Cyf. Cafodd ei fagu ym Mae Colwyn. Mae’i ddiddordebau’n cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes lleol.
Arian - Sarah Ecob
Mae gan Sarah dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y celfyddydau creadigol ac ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Economi a Diwylliant gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Sarah yn Gadeirydd Rhwydwaith Rheolwyr Canolfannau Cenedlaethol ac yn gyn Gadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Cyn symud i Ogledd Cymru bu’n gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol a’r Hackney Empire.
Secretary - Lorraine Whalley
After a career in hospitality, Lorraine has spent the last 10 years supporting Council administration & engaging in Community projects as Deputy Clerk to a local Town Council. In 2021 Lorraine joined Venue Cymru as an Admin Officer (Business Support).
Kristen Gallagher
Kristen has worked in fundraising across education and the arts for 20 years and is currently Director of Development at the Rose Theatre Kingston. Prior to this she worked at the University of Exeter and Bangor University. ​
Gareth Leech
​Mae Gareth yn gweithio i Gartrefi Conwy mewn swydd sy'n ymwneud a phrosiectau strategol yn bennaf. Fe'i magwyd yng Nghyffordd Llandudno ac mae'n byw yno o hyd gyda'i deulu ifanc. Dechreuodd Gareth gymryd yn Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy er mwyn rhoi hwb i waith y grwp a gwneud cyfraniad gwerth chweil i gymunedau lleol.
Artistiaid.
Rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cynnig gwaith i artistiaid lleol, gan eu helpu i aros yn yr ardal. Rydym hefyd yn rhedeg ac yn ariannu prosiectau sy’n dod ag artistiaid o bell ac agos i mewn, gan ehangu cwmpas ac effaith y celfyddydau yn ein cymunedau.
Testimonials.
Dr Helen Fitzpatrick
(Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc
‘Mae’r Prosiect Creu wedi rhoi cyfle hollol wych ac unigryw i nifer o’r bobl ifanc sy’n ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghonwy. Credaf fod y prosiect wedi cyfrannu’n sylweddol at eu hadferiad a chefnogi eu lles emosiynol.’