
Mae Cymerwch Ran, sydd bellach yn dathlu 16 o flynyddoedd, yn ŵyl gelfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth enfawr i blant a phobl ifanc (ond sy’n cael ei fwynhau gan bawb o 0 i 100 oed!) a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno.
Cynhelir yr ŵyl gan Venue Cymru mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy ac mae’r digwyddiad dros ddeuddydd yn denu 10,000 o ymwelwyr a mwy, gyda channoedd o ymarferwyr celfyddydau o bob cwr o’r DU yn dod i Venue Cymru i arwain gweithdai a pherfformio.
Bob blwyddyn, llunnir rhaglen yn ofalus fel bod rhywbeth i bawb - yn amrywio o greu modelau clai gydag Aardman Animation, gweithdai coreograffi i ddosbarthiadau codio. Mae sesiynau cerddoriaeth roc, sgiliau syrcas a chyfle i roi cynnig ar cerameg, darlunio a dawns y glocsen.
Lluniau gan Paul Sampson
​
​





