Pobl Ifanc

Creu & Creu 2.0
Mae Creu wedi’i dargedu’n benodol at bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed sy’n profi anawsterau iechyd meddwl. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i brofi ystod eang o genres celfyddydol gan annog ffyrdd newydd o fynegi eu hunain a darparu llais artistig.
​
Mae aelodaeth ar gyfer y grŵp hwn drwy atgyfeiriad proffesiynol yn unig.
​
Mae Creu 2.0 ar gyfer oedolion ifanc rhwng 18 a 25 oed sydd ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Mae aelodaeth ar gyfer y grŵp hwn drwy atgyfeiriad proffesiynol yn unig.
​
Siaradwch â’ch ymarferydd iechyd meddwl os hoffech gael eich ystyried.
Mwy o wybodaeth am y ddau brosiect
Ein Partneriaid: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Celfyddydau Cymru; Venue Cymru a Phlant Mewn Angen y BBC
Pobl Ifanc
​BEIRNIAID IFANC. Ar gyfer unigolion 18-30 oed. Cyfle i weld sioeau a dangosiadau, datblygu rhywfaint o sgiliau adolygydd theatr a chael cyngor proffesiynol gan ein Mentor. AM DDIM
​BRAHMS I’R BABANOD. Ar gyfer babanod, plant bach a’u rhieni/gofalwyr! Cyngherddau cerddoriaeth glasurol byw gan gerddorion o fri mewn awyrgylch braf a chyfeillgar. AM DDIM
​CLWB GRAFF. Ar gyfer plant a phobl ifanc 8-14 oed. Dysgwch y sgiliau yr ydych eu hangen i ddylunio a chreu eich gwaith graffiti eich hun gydag Andy ‘Dime One'. £
​DEUD O! Ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed. Mae Alan Whitfield a Katrina Moinet yn arwain grŵp Barddoniaeth Ieuenctid hynaf Conwy. AM DDIM
​CYLCH STORI. Ar gyfer plant 7-11 oed. Adrodd stori trwy gemau, chwarae rôl, celf a symudiad. AM DDIM
DAWNSIO FERTIGOL. Ehedwyr Ifanc (Dosbarthiadau i Archwilwyr a Rhai Profiadol).
Ar gyfer plant a phobl ifanc 10-18 oed. Mae dawnsio fertigol yn defnyddio offer dringo (rhaffau, harneisiau ac offer abseilio) a gweithio ar uchder i ddawnsio yn yr awyr ac ar ben waliau. £
CRIW CELF BACH. Ar gyfer plant 7-10 oed. Creu celf gyda’r artist proffesiynol Wendy Couling. AM DDIM



Ebost: diwylliant.culture@conwy.gov.uk for more




Lluniau ©
Paul Sampson
Cymerwch Ran
Mae Cymerwch Ran, sydd bellach yn dathlu ei 15fed mlynedd, yn ŵyl gelfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth enfawr i blant a phobl ifanc (ond sy’n cael ei fwynhau gan bawb o 0 i 100 oed!)
Mae’r digwyddiad deuddydd fel arfer yn denu 10,000 o ymwelwyr neu fwy.