Mewn Noson Ocsiwn Addewidion a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, cynigiwyd awr o wers ganu gan ein Noddwr, Rhys Meirion. Llwyddodd Helen Wyn Price, ar ran Côr Alaw, i ennill cynnig hael y canwr enwog. Yn ddiweddar ymunodd Rhys â'r Côr yn eu canolfan yn Ysgol Bod Alaw i roi "gwers meistr" iddynt ar dechnegau anadlu ac ymarferiadau cynhesu.  Yna treuliodd amser yn trafod a hyfforddi'r côr  yng nghan hyfryd Caradog Williams sef "Gwinllan". Bu Rhys yn hael gyda'i amser a'i gyngor ac roedd yr aelodau wedi gwir fwynhau'r profiad gwerthfawr.

 

Dywedodd Dilwyn Price, arweinydd y côr " roedd yn noson ysbrydoledig. Gobeithio y byddwn yn cofio popeth a ddysgodd Rhys i ni!  Os ydych â diddordeb mewn  ymuno gyda chôr cymysg, neu gymryd rhan mewn cyngerdd, yna cysylltwch ar unwaith gyda'n hysgrifenyddes - Nia Wyn Williams, 07738899936. "

 

 

At the Conwy Arts Trust Auction of Promises evening our Patron, Rhys Meirion, kindly offered an hour’s singing lesson. Helen Wyn Price, on behalf of Côr Alaw, successfully secured Rhys Meirion’s generous promise. Recently Rhys was able to join the choir at their base in Ysgol Bod Alaw and, true to his word, gave them a “master class” as they learnt breathing techniques, warm up exercises and then spent time addressing Caradog Williams’s wonderful song “Gwinllan.” Rhys was generous with his time and advice and the choir members thoroughly enjoyed the experience.   Dilwyn Price, the choir’s conductor, said “it was an inspirational evening. Hopefully we will remember everything Rhys taught us! If you are interested in joining a mixed choir, or would like us to take part in a concert, please do not hesitate in contacting our secretary - Nia Wyn Williams, 07738899936.”