Dementia Friendly Film Screenings

The board awarded money towards the cost of promotional print for the dementia friendly film screenings at Theatr Colwyn, Colwyn Bay. The screenings were being run in conjunction with Lancaster University and The Dukes Lancaster, aimed at people living with dementia, their friends, family and carers.

Theatr Colwyn’s screenings made such an impact on a national level for the engagement with audience and the partnership work established with Welsh National Opera / Canu Conwy, who run the interval entertainment, that the lead officer on the project was asked to feature in a British Film Institute training guide, circulated nationally in print and in film format, to encourage other venues to start showing dementia friendly screenings.

This staff member later spoke at a national conference on the arts and dementia.

Sgriniadau Addas i Bobl â Dementia

Rhoddodd y Bwrdd arian tuag at gostau deunydd i hyrwyddo sgriniadau addas i bobl â dementia yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn. Roedd y sgriniadau hyn yn cael eu cynnal ar y cyd â Phrifysgol Lancaster a Theatr y Dukes, Lancaster, ac wedi’u targedu at bobl sy'n byw â dementia, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae'r sgriniadau hyn yn Theatr Colwyn wedi cael cryn sylw yn genedlaethol am y modd y maent yn creu cysylltiad â’r cynulleidfaoedd ac am y gwaith mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru / Canu Conwy, sy’n darparu adloniant yn ystod yr egwyliau. Ar sail hynny gofynnwyd i swyddog arweiniol y prosiect fod yn rhan o ganllaw hyfforddiant Sefydliad Ffilm Prydain, a ddosbarthwyd drwy Brydain mewn print ac ar ffilm er mwyn annog cynnal sgriniadau addas i bobl â dementia mewn mannau eraill.

Siaradodd yr aelod o staff yn ddiweddarach mewn cynhadledd genedlaethol ar gelfyddydau a dementia.

Booking for this event has now closed.